Amheuaeth dros ffitrwydd Evans / Doubt over Evans' fitness

09/09/2010 13:56

Mae gan reolwr CPD Bont, Andre Marsh gur pen wrth baratoi ar gyfer eu gêm yn erbyn Trefaldwyn dros y penwythnos gyda'r newyddion bod amheuaeth dros ffitrwydd Dewi Sion Evans.

Mae Evans wedi bod yn dioddef o anaf i'w benglin dros yr haf, ond fe ddychwelodd i'r garfan i'r gêm yn erbyn Lladrindod bythefnos yn ôl, ac fe ddaeth i'r maes fel eilydd yn erbyn Llanfyllin ddydd Sadwrn diwethaf.

Roedd posibilrwydd y byddai Marsh yn dechrau gydag Evans yn yr amddiffyn yn y gêm gynghrair ddydd Sadwrn yma oherwydd argaeledd chwaraewyr eraill, ond mae amheuaeth mawr ynglŷn â hynny bellach. Meddai Marsh, "roedd Dewi'n dod mlaen yn dda ond fe ffoniodd fi ddechrau'r wythnos i'm hysbysu ei fod wedi anafu ei benglin eto'n chwarae pump bob ochr. Mae hynny'n siom wrth gwrs, ond mae gen i garfan gref i deithio i Drefaldwyn yr un fath."

Mae disgwyl rhai newidiadau yn y tîm gan bod y golwr, Trevor Jenkins ar wyliau tra bod Gwynfryn Hughes a Trystan Jones hefyd yn eisiau o'r tîm gollodd i Lanfyllin. 

Bont manager, Andre Marsh, has selection worries for his team's game at Montgomery this weekend following the news that Dewi Sion Evans has picked up an injury.

Evans has been recovering from a knee injury over the summer, but returned to the Bont squad for the Llandrindod game a fortnight ago. Evans made a second half appearance from the bench against Llanfyllin last week.

Marsh was considering handing Evans a starting place in the Bont defence for the league match this Saturday because of other players being unavailable, but the injury news has meant a return to the drawing board. Marsh said, "Dewi was coming along well but he called me early on in the week to report that he had taken a knock playing five a side. It's of course a disappointment, but I’ll still have a strong squad travelling to Montgomery.

Some changes are expected to the starting XI that lost to Llanfyllin with keeper Trevor Jenkins on holiday, whilst Gwynfryn Hughes and Trystan Jones are also unavailable.

Back