Bont v Llanfair - Newyddion Tîm / Team News

22/10/2010 16:59

Mae Bont yn herio Llanfair Utd ar Barc Patyfedwen yfory (23/10/10) gan obeithio sicrhau eu trydedd buddugoliaeth o'r bron. 

Bydd y tîm yn llawn hyder yn dilyn buddugoliaethau da yn erbyn Rhosgoch a Talgarth dros yr wythnosau diwethaf. 

Mae'r garfan yn edrych yn ddigon cryf wrth i Andre Marsh groesawu Glyndŵr Hughes yn ôl wedi anaf, yn ogystal â Ben Jenkins oedd yn methu chwarae yn erbyn Talgarth yr wythnos ddiwethaf. Mae'r ymosodwr ifanc, a phrif sgoriwr y tîm hyd yn hyn eleni, Jamie Evans hefyd yn ôl yn y garfan.

Yn anffodus, mae Dewi Sion Evans yn methu'r gêm oherwydd ymrwymiadau eraill, tra bod Sion Jones wedi'i anafu yn erbyn Talgarth. Mae amheuaeth yn parhau ynglŷn â ffitrwydd yr asgellwr chwith, Andrew Gilbert hefyd ond fe all gael ei gynnwys yn y garfan os yw'n teimlo'n holliach.  

Bydd Llanfair Utd yn teithio o Lanfair Caereinion yfory ac maent yn chweched yn y gynghrair ar hyn o bryd. Maent i'w gweld yn chwarae'n dda ar hyn o bryd, gan sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Trefaldwyn yr wythnos diwethaf, a churo Meifod o 7-0 yr wythnos flaenorol.

 

Bont will be welcoming Llanfair Utd to Parc Pantyfedwen tomorrow (23/10/10) and hope to secure their third victory running.

The team will be brimming with confidence after two good victories against Rhosgoch and Talgarth over the last fortnight.

The squad looks strong as Andre Marsh welcomes back Glyndŵr Hughes from injury, and also Ben Jenkins who was unavailable last week. The young striker, and this seasons top scorer so far, Jamie Evans is also available for selection 

Unfortunately, Dewi Sion Evans in unavailable due to other commitments, and Sion Jones picked up a knock against Talgarth. Left winger Andrew Gilbert is also still doubtful with his thigh injury, but Marsh may well decide he's fit enough to make the squad.

Llanfair Utd travel from Llanfair Caereinion tomorrow and currently lie sixth in the Spar Mid Wales Division 2. They seem in good shape after a goal-less home draw against the impressive Montgomery last week, and a 7-0 victory away at neighbours Meifod a fortnight ago.

Back