Colli trydedd gêm o’r bron

23/09/2010 20:07

Coedpoeth 5 - 1 Bont

 

Collodd Bont eu trydedd gêm yn olynol oddi-cartref yng Nghoedpoeth dros y penwythnos.

Er bod y sgôr yn awgrymu’n wahanol, doedd y perfformiad ddim yn rhy ddrwg gan Bont mewn gwirionedd dim ond i gamgymeriadau a diffyg lwc eu gadael nhw lawr.

Roedd y dechrau’n ddifrifol o wael i’r ymwelwyr wedi taith hir i gyrion Wrecsam - arweiniodd trosedd gan Ben Jenkins wedi dim ond 30 eiliad at gic o’r smotyn i Goedpoeth. Arbedodd Trevor Jenkins y gic wreiddiol ond disgynnodd y bêl yn garedig i’r ymosodwr a rwydodd ar yr ail ymdrech.

Roedd Bont yn ddigon soled gweddill yr hanner cyntaf, er i ymosodwr mawr Coedpoeth achosi pob math o drafferthion yn y cefn i’r ymwelwyr. Llwyddodd Gwynfryn Hughes i ddygymod â’r bygythiad i raddau helaeth yn y cefn, tra bod Jamie Evans a Sïon Jones wedi mynd yn agos i Bont, ond 1-0 oedd y sgôr ar yr hanner.

Dechrau’n wael eto oedd hanes Bont wedi’r egwyl ac o fewn munud roedd Bont ddwy ar ei hôl hi. Rhedodd Jenkins allan o’i gwrt a chario’r bêl i safle’r cefnwr de, ddim ond i’w chlirio’n syth i un o chwaraewyr Coedpoeth a ergydiodd mewn i rwyd wag. Rai munudau yn ddiweddarach fe redodd ymosodwr y tîm cartref yn glir cyn mynd heibio i Jenkins yn y gôl i sgorio’r drydedd.

Setlodd Bont eto wedi hyn ac ar yr awr roedden nhw’n mynd trwy gyfnod digon bygythiol - achosodd un croesiad drafferthion i’r golwr, ond llwyddodd yr amddiffyn i glirio wrth i Owain Schiavone ruthro am y bêl yn y cwrt cosbi. Daeth cyfle arall wrth i groesiad da gan Sion Jones anelu’n syth am ben Ifan Evans yn y postyn pellaf, ond rhywsut llwyddo Evans i benio dros y trawst gyda rhwyd wag o’i flaen.

Llwyddodd yr ymwelwyr i dynnu un gôl yn ôl yn fuan wedyn wrth i Jamie Evans ergydio o gic rydd o ymyl y cwrt - bownsiodd y bêl o flaen y gôl geidwad a gorffen yng nghornel y rhwyd.

Roedd Bont yn taflu popeth at y tîm cartref erbyn hyn wrth geisio dod nôl mewn i’r gêm, ond fel arall yr aeth hi wrth i Goedpoeth wrth ymosod a sgorio dwy gôl hwyr i’w gwneud yn 5-1 ar y chwiban olaf.

Bydd Bont yn falch o’r penwythnos rhydd sydd ganddyn nhw cyn ceisio ail danio eu tymor adref yn erbyn Ceri ar 02 Hydref.

Back